SL(6)319 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau yn diwygio, yng Nghymru, y sail ar gyfer cyfrifo’r lluosydd ardrethu annomestig, sy’n defnyddio’r fformiwla a geir ym mharagraff 4B o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”).

Mae’r Rheoliadau yn gymwys i’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023.  Mae’r Rheoliadau yn datgymhwyso’r defnydd o’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar gyfer mis Medi 2022 wrth gyfrifo’r lluosydd ardrethu annomestig, ac yn datgan bod y cyfrifiad yn cael ei wneud gan ddefnyddio 113.9 yn lle’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr.  Effaith hyn yw rhewi'r lluosydd ardrethu annomestig ar gyfer 2023-24.

Y weithdrefn

Gwneud cadarnhaol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Yn unol â pharagraff 5(13C) o Atodlen 7 i Ddeddf 1988, mae’n rhaid i'r Senedd gymeradwyo'r Rheoliadau cyn i'r Senedd gymeradwyo'r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2023, neu cyn 1 Mawrth 2023 (pa un bynnag sydd gyntaf) er mwyn iddynt gael effaith.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodwyd y 3 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3 (i) – ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu awdurdod lleol neu gyhoeddus er mwyn cydnabod unrhyw drwydded, cydsyniad neu unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath.

Nodir fel a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

Caiff yr holl refeniw NDR a gesglir yng Nghymru ei roi mewn cronfa ganolog a'i ddosbarthu i'r awdurdodau lleol ac i gomisiynwyr heddlu a throseddu fel rhan o’r setliadau blynyddol ar gyfer llywodraeth leol. Gelwir y cyfanswm i'w ddosbarthu fel hyn yn Swm Dosbarthadwy. Fe'i cyfrifir drwy gymhwyso'r lluosydd i gyfanswm cenedlaethol amcangyfrifedig y gwerth ardrethol, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw warged neu ddiffyg a gariwyd ymlaen o'r blynyddoedd blaenorol.

Mae'r Swm Dosbarthadwy yn gydran allweddol o’r setliadau refeniw blynyddol ar gyfer llywodraeth leol ac mae Deddf 1988 yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei gymeradwyo gan y Senedd fel rhan o Adroddiadau Cyllid Llywodraeth Leol a gyhoeddir yn flynyddol. Mae angen i'r lluosydd, felly, gael ei bennu cyn y gellir rhoi trefn derfynol ar y setliad blynyddol.”

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn bwysigrwydd y Rheoliadau hyn, a'u heffaith ar y setliadau refeniw llywodraeth leol blynyddol.  Nodwn benderfyniad Llywodraeth Cymru i rewi’r lluosydd ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 yn hytrach na chynyddu’r lluosydd drwy gyfeirio at y Mynegai Prisau Defnyddwyr.  Mae’r dull hwn yn golygu bod y lluosydd yn parhau i fod yr un ffigur â’r ffigur a gyfrifwyd ar gyfer blynyddoedd ariannol 2020-21 a 2021-22.

Yn benodol, nodwn y paragraffau defnyddiol a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

Bydd pob perchennog a meddiannwr eiddo annomestig yng Nghymru sy'n talu ardrethi yn elwa ar y newid, ac yn cael biliau ardrethi is ar gyfer 2023-24 nag y byddai pe bai CPI yn cael ei ddefnyddio. Bydd hyd yn oed eiddo sy'n cael symiau sylweddol o ryddhad ardrethi yn elwa, gan y bydd y rhwymedigaeth weddilliol yn cael ei chyfrifo gan ddefnyddio lluosydd is.

Bydd rhewi'r lluosydd yng Nghymru, yn hytrach na'i gynyddu i gynnal refeniw NDR termau real yn unol â CPI, yn lleihau'r incwm i'r gronfa NDR yn ystod 2023-24. Bydd y gostyngiad yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru a chaiff ei adlewyrchu yn y cyfrifiadau ar gyfer setliadau llywodraeth leol, fel nad oes unrhyw effaith ariannol ar gyllidebau awdurdodau lleol na chyllidebau'r heddlu.

3.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn na fu unrhyw ymgynghori ar y Rheoliadau hyn.  Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

Ni chynhaliwyd ymgynghoriad ar y polisi y tu ôl i Reoliadau 2023. Mae'r cynigion o fudd i bob talwr ardrethi yng Nghymru ac nid oes unrhyw effaith ar yr adnoddau sydd ar gael i'r awdurdodau lleol na gwasanaethau'r heddlu.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

3 Chwefror 2023